Manylion a cefndir y prosiect?
Mae’r ymchwil hwn yn cael ei gynnal gan Lisa Smithstead ac Elain Price, Uwch Ddarlithwyr mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Elain a Lisa yn ymchwilio i oedran a diwylliant sinema/teledu yng Nghymru. Mae eu gwaith gyda’r grwpiau ffocws hyn yn rhan o brosiect ehangach am sut mae diwylliant sinema wedi newid dros y ddegawd ddiwethaf yn ei gynrychiolaeth o fenywod hŷn, a’i apêl i gynulleidfaoedd o fenywod hŷn.
Maent yn gobeithio siarad gyda menywod ar draws Cymru i ddarganfod mwy am beth mae sinema yn ei olygu iddyn nhw, beth allai wneud sinema yn fwy apelgar i fenywod dros 50, a pha fath o sêr ac enwogion sy’n gwneud argraff ar gynulleidfaoedd o fenywod hŷn.