
Ymchwilio i brofiadau Menywod dros 50 o fynychu’r Sinema yng Nghymru
Taleb gwerth £20 i bawb sy’n cymryd rhan
Diodydd oer a phoeth a chacen am ddim!
Mae ymchwilwyr Astudiaethau Cyfryngau o Brifysgol Abertawe yn rhedeg cyfres o grwpiau ffocws i ddysgu mwy am fenywod dros 50 a’u profiadau o fynd i'r sinema cyn, yn ystod a wedi cyfnodau ‘clo’ Covid-19 yng Nghymru
Os ydych chi’n fenyw dros 50 sy’n byw yng Nghymru a hoffech fod yn rhan o’r trafodaethau, rydym yn eich gwahodd i ymuno gyda grŵp o fenywod eraill i'n helpu i ddeall sut mae’r pandemig wedi effeithio patrymau mynychu’r sinema ar gyfer pobl yn y garfan hon o gymdeithas.
Bydd adborth o’r grwpiau yn cael ei ddefnyddio er mwyn datblygu strategaethau newydd ar gyfer gwneud lleoliadau sinema byw yn fwy hygyrch i fenywod dros 50 yng Nghymru.
Cliciwch isod i ddod o hyd i Grŵp ffocws yn agos atoch chi sy’n rhedeg ym mis Mai 2025.